Profi, Olrhain a Diogelu
Enghraifft o'r canlynol | system, ymgyrch |
---|---|
Rhan o | Gwasanaeth Iechyd Gwladol |
Dechrau/Sefydlu | 13 Mai 2020 |
Gwladwriaeth | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Cyhoeddwyd y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu ar 13 Mai 2020, yng nghanol y pandemic COVID-19, er mwyn ceisio atal pobl wedi dal yr haint rhag heintio eraill. Mae'n system sy'n ymwneud â phrofi pobl â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai y maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw ac amddiffyn teulu, ffrindiau a'n cymuned trwy hunan-ynysu.
Cyhoeddwyd strategaeth Profi newydd ar 15 Gorffennaf, sy'n nodi'n union sut y bydd profion yn gweithio a sut y gellid adeiladu capasiti ar gyfer y posibilrwydd o ail don.
Gweithredir y system Profi, Olrhain a Diogelu gan GIG Cymru ac mae'n cynnwys nifer o bartneriaid sy'yn gweithio gyda'i gilydd i helpu atal lledaeniad y firws: Iechyd Cyhoeddus Cymru, i'r Byrddau Iechyd lleol ac Awdurdodau Lleol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac eraill. Dyma un o'r prosiectau iechyd cyhoeddus mwyaf mewn cenhedlaeth.[1]
Mae ap COVID-19 y GIG Archifwyd 2021-02-27 yn y Peiriant Wayback yn rhan o'r rhaglen Profi Olrhain Diogelu i reoli lledaeniad COVID-19.
Hunan-brofi (Mawrth 2021)
[golygu | golygu cod]Ym Mawrth 2021 cyhoeddodd y Llywodraeth gyfres o fideos byr yn dangos sut i hunan-brofi am y Gofid Mawr.
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [dolen farw] Llywodraeth Cymru; adalwyd 11 Chwefror 2021.